Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
07 Chwefror 2022
SL(6)143 – Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 (“y Rheoliadau Diwygio”) yn diwygio Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021 (“Rheoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain”), i ohirio’r dyddiad y bydd swyddogaethau penodol yn cael eu rhoi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain.
Mae'r Rheoliadau Diwygio yn diwygio rheoliad 1(3) o Reoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain fel y bydd rheoliadau 11, 12 a 13, a rheoliad 15 (i'r graddau y mae'n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gan reoliadau 12 a 13 o Reoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain) yn cychwyn ar 30 Mehefin 2022 yn hytrach na 28 Chwefror 2022 fel y darperir ar ei gyfer ar hyn o bryd. Gofynnodd Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain am y diwygiad hwn i roi mwy o amser i ddatrys materion technegol sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â’r gweithrediad cyn i’r swyddogaethau craidd gychwyn.
Mae rheoliad 11 o Reoliadau Sefydlu’r De-ddwyrain yn rhoi i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain y swyddogaeth llesiant economaidd, mae rheoliad 12 yn rhoi'r swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ac mae rheoliad 13 yn rhoi'r swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol.
Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 18 Chwefror 2022